llandegfeddlake
Sep 1
6
0.25%
Rydyn ni wedi diweddaru ein horiau agor wrth i’r hydref nesáu. Ewch i’n gwefan i weld yr holl newidiadau o ran argaeledd chwaraeon dŵr a gweithgareddau ar dir sych rhwng 12 Medi a 30 Hydref.
Bydd hyn yn cynnwys cau’r Canolfan Gweithgareddau bob dydd Llun a dydd Mawrth. Bydd y sesiynau gyda’r nos yn parhau ar nosweithiau Mercher a Gwener trwy gydol Medi, gan ddod i ben am 7pm wrth iddi ddechrau tywyllu’n gynt.
Byddwn ni’n cyflwyno sesiwn Nofio Dŵr Agored bore Sul (9am-11am) a fydd yn cychwyn ar 11 Medi ac yn rhedeg bob Sul trwy fisoedd Medi a Hydref, nes i dymheredd y dŵr ddisgyn i lefel fydd yn gofyn ein bod ni’n rhoi’r gorau i gynnig Nofio Dŵr Agored.
Bydd y ganolfan ymwelwyr ar agor o hyd, gan gynnwys Caffi Glan y Llyn, a fydd yn gweithredu fel arfer. Ar agor bob dydd 9am – 5pm.
I weld yr amserau agor diweddaraf, ewch i’n gwefan: http://ow.ly/NhY150KxWCJ
➡️**Mae pysgota ar gael bob dydd, ac ni fydd y ffaith fod y Ganolfan Gweithgareddau ar gau pob dydd Llun a dydd Mawrth yn effeithio ar hyn**⬅️
llandegfeddlake
Sep 1
6
0.25%
Cost:
Manual Stats:
Include in groups:
Products:
